Ben, Capten Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro, yn cael ei ddewis ar gyfer gêm agoriadol cyfres tîm Dan-18 Cymru

12 August 2016

Ben, Capten Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro, yn cael ei ddewis ar gyfer gêm agoriadol cyfres tîm Dan-18 Cymru

Mae Ben Thomas, Capten tîm Academi Rygbi Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi’i ddewis i gynrychioli tîm  Dan-18 Cymru yn erbyn Ysgolion De Affrica yn y Gyfres Ryngwladol Dan-19 flynyddol.    

Bydd y gêm yn Stadiwm Parc y Ddinas Cape Town ddydd Sadwrn (13.08.16) am 3pm. Yn ymuno â Chymru yn y gyfres mae’r wlad sy’n cynnal y gêm sef De Affrica ynghyd â Ffrainc, Lloegr a’r Eidal. 

Yn fyfyriwr Lefel A yn CAVC, mae Ben wedi gwneud ymddangosiadau rhyngwladol yn barod i dîm Dan-18 Cymru. Bydd hyn yn ddechrau ar ei dymor llawn cyntaf gyda’r tîm. Mae’r bachgen 17 oed o Gaerdydd wedi cymhwyso flwyddyn lawn yn ieuengach na’r mwyafrif yn barod.  

Roedd Ben hefyd yn nhîm Gleision Caerdydd a gurodd Dreigiau Casnewydd Gwent yn ddiweddar sef y pencampwyr presennol. Sicrhaodd hyn le yn rowndiau terfynol Cyfres Pencampwriaeth Rygbi Saith Bob Ochr Singha. 

Mae Academi Rygbi CAVC yn rhoi llwyfan i fyfyrwyr ifainc ac ymroddedig sydd â diddordeb mewn perfformiad a rygbi ar lefel elitaidd. Mae’n rhoi pwyslais cryf ar gydbwyso perfformiad chwaraeon gyda galluoedd addysgiadol. Mae’n cynnig y chwarae a chyfleusterau hyfforddi mwyaf blaengar yn y sector ym Mharc yr Arfau BT Caerdydd a Champws Chwaraeon Rhyngwladol y Coleg yn Lecwydd.