Canolfannau Lles

Mae gan bob Campws Ganolfan / lle dynodedig i ddysgwyr gael gafael ar wasanaeth Lles.

Gall dysgwyr gael mynediad i’r Ganolfan ar unrhyw adeg yn y coleg, mae’n lle diogel os ydynt yn awyddus i drafod unrhyw beth. Gall ein Swyddogion Lles cyfeillgar gynnig cyngor ac arweiniad a helpu i gefnogi dysgwyr gydag unrhyw broblemau sydd ganddynt.
Mae’r Ganolfan yn darparu lle i ddysgwyr:

  • Gael tawelwch i gymryd seibiant byr o’u gwersi os oes angen.
  • Gael gafael ar gefnogaeth eiriolaeth a chyfeirio at bethau fel cwnsela, cyllid, gyrfaoedd a chysylltu â rhieni a gofalwyr.
  • Gael cyfle i rannu meddyliau a theimladau.
  • Gael cymorth ac arweiniad i helpu i hybu eu lles emosiynol a’u gwytnwch yn ddiogel.
  • Gael gafael ar y cynllun Cerdyn-C a chyngor ar iechyd rhywiol.