Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

L2 Lefel 2
Llawn Amser
2 Medi 2024 — 20 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2: Dyluniwyd y cymhwyster craidd i ddysgwyr 16 oed neu hŷn yng Nghymru sy'n gweithio neu eisiau gweithio mewn:

  • Lleoliad gofal plant a reoleiddir gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed.
  • Gwasanaethau plant y GIG sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae'r cymhwyster craidd yn mynd i'r afael â'r wybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ac yn adlewyrchu amrywiaeth o wahanol swyddi ac oed.

Mae'r cymhwyster Arfer a Theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant gyda'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector hwn.

Mae'r pynciau yn cynnwys:

  • Cefnogi arfer craidd mewn gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant.
  • Cefnogi gofal, chwarae, dysg a datblygiad plant.
  • Cefnogi maeth a hydradiad mewn blynyddoedd cynnar.
  • Ymateb i rybuddion o salwch posib a heigiadau/heintiau
  • Iechyd, llesiant a datblygiad plant, 0-19 oed, a ffactorau sy'n cefnogi iechyd, llesiant a datblygiad.
  • Rôl a gwerth gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau iechyd ar gael yng Nghymru i gefnogi gydag anghenion gofal, iechyd, llesiant a datblygiad plant.

Mae gofyn i ddysgwyr gwblhau lleiafswm o 280 awr mewn lleoliad gwaith i gwblhau’r cymhwyster hwn.

Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2: Asesir y cymhwyster Arfer a Theori drwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau'n llwyddiannus:

  • Cyfres o dasgau a osodir yn allanol sy'n cael eu marcio'n fewnol.
  • Portffolio o dystiolaeth.
  • Trafodaeth gydag asesydd.
  • Arholiad allanol.

Gofynion mynediad

3 TGAU A* i C. C mewn Saesneg Iaith, D mewn Mathemateg (ni dderbynnir TGAU Rhifedd; fodd bynnag, bydd dysgwyr â chymhwyster Cymhwyso Rhif Lefel 2 yn cael eu hystyried fel arallddewis i radd D mewn TGAU Mathemateg). Gwiriad DBS Uwch i'w gwblhau wrth gofrestru.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Medi 2024

Dyddiad gorffen

20 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

20 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CRCC2F02
L2

Cymhwyster

WJEC Level 2 CCPLD Core

Mwy...

Fideos
Beth mae ein myfyrwyr yn ei ddweud

“Mae fy nhiwtoriaid wedi bod mor gefnogol a hyfryd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, rwy’n gobeithio symud ymlaen i’r brifysgol i ddod yn athrawes ysgol gynradd gymwys.”

Jessica Thomas
Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3
Dysgu Dwyieithog

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

103,500

Ar hyn o bryd, mae bron i 103,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y sector hwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a disgwylir i’r niferoedd cyflogaeth gyrraedd 105,000 erbyn 2027 (Lightcast 2022).

Gall dysgwyr symud ymlaen i’n cwrs lefel 3 mewn Gofal Plant neu ennill prentisiaeth yn y diwydiant. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE