Mae'r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig yn darparu cyflwyniad eang i adeiladu a'r amgylchedd adeiledig. Cafodd ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy'n gweithio ar hyn o bryd, neu'n bwriadu gweithio yn y sectorau.
Mae wedi'i dargedu at ddysgwyr sy'n dysgu yn seiliedig ar waith, mewn addysg bellach, a chweched dosbarth mewn ysgolion. Bydd y cymhwyster yn galluogi myfyrwyr i fynd ymlaen i astudio ystod o gyrsiau eraill ym maes adeiladu a BSE sy'n berthnasol a'r maes crefft sydd o ddiddordeb iddynt.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau unedau craidd sy'n eu cefnogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gychwynnol o:
Yn ogystal â'r unedau 'craidd' hyn, bydd dysgwyr yn astudio dau lwybr masnachu ac yn treulio amser yn dysgu sgiliau newydd, fydd yn cynnwys cynllunio, perfformio, a gwerthuso tasgau cyffredin.
Gwaith Brics: Bydd y rhan hwn o'r cwrs yn dangos i chi sut i ddewis, storio, a pharatoi deunyddiau ar gyfer gosod brics, blociau a cherrig, ac yn datblygu eich sgiliau ymarferol i'ch caniatáu chi i gymysgu, trin, storio a phentyrru deunyddiau yn barod i'w defnyddio. Byddwch yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i osod brics, blociau a cherrig mewn llinell, a datblygu eich sgiliau i fesur, lefelu a phlymio'r gwaith.
Plastro: Bydd y rhan hwn o'r cwrs yn dangos i chi sut i ymarfer a datblygu sgiliau allweddol mewn agweddau gwahanol o'r fasnach blastro. Byddwch yn defnyddio offer, cyfarpar, ac adnoddau gwahanol i baratoi arwynebau ac yn ennill profiad ymarferol mewn gosod cydrannau megis byrddau plastfyrddau a gleiniau, cymysgu deunyddiau megis tywod a sment, a defnyddio systemau plastro traddodiadol a modern.
Byddwch yn astudio yn ein canolfannau adeiladu sydd â chyfleusterau pwrpasol. Mae'r rhain yn cynnwys dosbarthiadau ar gyfer gwaith theori a gweithdai masnach-benodol enfawr lle byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol bob wythnos gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant.
Mae asesiadau eich cwrs yn cynnwys set o aseiniadau a'u defnyddir i fesur datblygiad eich sgiliau ac asesiadau ar ddiwedd y flwyddyn, gan gynnwys profion sgiliau ymarferol ac arholiadau ar-lein.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael eu hesgidiau diogelwch eu hunain cyn dechrau'r cwrs. Gellir prynu'r esgidiau gan unrhyw fanwerthwr.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch ddewis y grefft a ddymunir gennych a symud ymlaen i gwrs neu brentisiaeth lefel uwch.