Mae ein cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol yn darparu addysg a hyfforddiant perthnasol i'r diwydiant i’r unigolion hynny sy'n bwriadu gweithio, neu sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyfryngau creadigol.
Yn astudio yn ein stiwdios arbenigol ac ystafelloedd amlgyfrwng yn ein Campws Canol y Ddinas, bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau a thechnegau sy'n allweddol ar gyfer perfformiad llwyddiannus mewn bywyd gwaith. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i gyflawni cymhwyster galwedigaethol Lefel 3 a gydnabyddir yn genedlaethol, a fydd yn eich galluogi i naill ai fynd i gyflogaeth yn y sector cyfyngau creadigol neu i fynd ymlaen i addysg uwch.
Bydd y cymhwyster hefyd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n berthnasol i’r diwydiannau creadigol. Gall disgyblion ddisgwyl sicrhau 6 cymhwyster trwy Sgiliau Hanfodol Cymru yn ystod y 2 flynedd, yn ogystal â chymhwyster Sgil Gwaith BTEC.
Pwyntiau UCAS cyfunol a gronnwyd ar ôl cwblhau’r cwrs hwn a’r flwyddyn flaenorol yn llwyddiannus:
Llwyddo = 72
Teilyngdod = 120
Rhagoriaeth = 168
Unedau a astudir ym Mlwyddyn 1:
Unedau a astudir ym Mlwyddyn 2:
Ffioedd Stiwdio: £65.00
Successful achievement of Level 3 Diploma in Creative Media Production and Technology. Interview and satisfactory reference from Course Tutor.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae pawb yn gyfeillgar iawn ac mae’r profiad dysgu wedi bod yn arbennig - mae’r tiwtoriaid yn gefnogol ar bob adeg. Mi fyddwn i'n argymell mynd i’r Coleg gan ei fod yn lwybr gwych i brifysgol neu waith. Dwi'n ddigon ffodus i fod yn astudio cwrs dwi wir yn ei fwynhau a dyna’r peth pwysicaf.
Wedi cwblhau'r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i’r Radd Sylfaen mewn Diwydiannau Creadigol (Ffilm a Fideo) yn y coleg. Bydd nifer o fyfyrwyr hefyd yn mynd ar drywydd cyfleoedd cyflogaeth yn y sector, yn ogystal ag amrywiol gyrsiau yn y Brifysgol.