Mae’r cwrs yma’n llawn erbyn hyn, ond rydym yn derbyn ceisiadau yn awr ar gyfer cyrsiau fydd yn cychwyn o fis Medi 2023. Ymgeisiwch nawr ac fe gysylltwn â chi ym mis Gorffennaf i drafod dyddiadau.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer:
*Asesir y cymhwyster hwn drwy arholiad*
Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn gallu:
• Disgrifio gwahanol wasanaethau Cyfrifiadura Cwmwl a modelau o’u defnyddio
• Rhestru ac egluro termau a nodweddion Cyfrifiadura Cwmwl
• Deall cysyniadau RAID a’r mathau o ddisgiau
• Rhestru technolegau Storio a’u protocolau priodol
• Deall Llwybro a Switsio, gan gynnwys pyrth a phrotocolau
• Rhestru’r mathau gwahanol o rwydweithiau
• Diffinio hypervisor, Peiriant Rhithwir, a VM Host
• Rhestru manteision rhithwirio
• Disgrifio’r cysyniad o Fudo Gweinydd
• Rhestru ac egluro’r gwahanol offer mynediad o bell
• Trafod yr angen am dechnegau monitro o bell
• Egluro dyraniad adnoddau poblogaidd, ac adnoddau VM
• Rhestru’r offer tiwnio sydd ar gael i helpu i optimeiddio perfformiad
• Deall yr arferion gorau o ran rheoli systemau
• Rhestru’r offer datrys problemau a’r technegau profi sydd ar gael
• Egluro’r angen am amgryptiad data
• Rhestru’r gwahanol ddulliau rheoli mynediad sydd ar gael
• Disgrifio’r gwahanol ddulliau o ran Argaeledd Uchel
• Rhestru’r gwahanol ddulliau Adfer wedi Trychineb sydd ar gael
Argymhellir bod gan y cynrychiolwyr o leiaf 24-36 mis o brofiad gwaith mewn rhwydweithio TG, storio, neu weinyddu canolfan ddata. Byddai Rhwydwaith CompTIA+ a/neu Server+ hefyd yn fuddiol ond nid yw'r rhain yn ofynnol.
Gan mai cwrs ar-lein yw hwn, bydd angen mynediad i gyfrifiadur/gliniadur gyda rhyngrwyd.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.