Mae ein cwrs Cyflwyniad i Seiberddiogelwch lefel 2 yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dilyn gyrfa fel arbenigwr seiberddiogelwch. Mae'n gwrs rhagarweiniol a fydd yn cynnig blas i chi o fygythiadau seiberddiogelwch cyffredin a'r prif amddiffynfeydd mae arbenigwyr diogelwch yn eu defnyddio.
Ar ôl cwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gan Agored Cymru.
Gellir addysgu'r cwrs hwn gyda thiwtor o bell. Ni fydd angen i chi brynu unrhyw feddalwedd ar gyfer y cwrs hwn. Fodd bynnag, bydd angen cyfrifiadur sy'n gweithio arnoch gyda seinydd sy'n gweithio a mynediad i'r rhyngrwyd. Byddai meicroffon yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Bydd y cwrs hwn yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.