Ymrestru yn CAVC

Cofrestru ar gwrs ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Cofrestru ar Gwrs Amser Llawn

Os nad ydych wedi gwneud cais eto, nid yw'n rhy hwyr. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar ôl ar ystod o gyrsiau llawn amser yn dechrau'r tymor hwn. 

Gwnewch gais cyn gynted â phosibl trwy bori ein cyrsiau. Dewch o hyd i'r cwrs sy'n iawn i chi a gwnewch gais ar-lein cyn gynted â phosibl. 

Mae hefyd angen ymweld ag un o'n sesiynau Galw Heibio Cofrestru Agored ar y dyddiadau isod lle gallwch siarad â thiwtoriaid, archwilio cyrsiau gyda lleoedd ar ôl a gallech hyd yn oed gofrestru ar y diwrnod. Mae cyrsiau'n cael eu llenwi ar sail y cyntaf i'r felin felly gwnewch gais a mynychu ar y dyddiad cynharaf posibl.

Sesiynau Galw Heibio Cofrestru Agored

Bydd y rhain yn digwydd ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol: 
Dydd Mercher 26 Awst - 9am - 6pm @ Campws Canol y Ddinas a Champws y Barri 
Dydd Iau 27 Awst - 3pm – 6pm @ Campws y Barri a Champws Canol y Ddinas 
Dydd Mawrth 1 Medi - 3pm – 6pm @ Campws y Barri a Champws Canol y Ddinas 
Dydd Mercher 2 Medi - 3pm – 6pm @ Campws Canol y Ddinas 
Dydd Iau 3 Medi - 3pm – 6pm @ Campws y Barri 
Dydd Mercher 9 Medi - 3pm – 6pm @ Campws Canol y Ddinas 
Dydd Iau 10 Medi - 3pm – 6pm @ Campws y Barri 
Dydd Mercher 23 Medi - 3pm – 6pm @ Campws Canol y Ddinas 
Dydd Iau 24 Medi – 3pm-6pm @ Campws y Barri

Dod i Sesiwn Cofrestru – Pwyntiau pwysig

Yn ystod y cofrestriad agored byddwch yn cwrdd â'n hathrawon neu gynghorwyr ac yn darganfod pa gyrsiau sydd ar gael a allai fod yn iawn i chi. 

  • Mae'n bwysig gwneud cais a mynychu sesiwn cofrestru agored cyn gynted â phosibl. 
  • Yn yr apwyntiad byddwch yn sgwrsio ag athrawon, yn dangos canlyniadau eich arholiadau (o soes angen ar gyfer y cwrs yna) ac yn cofrestru ar y cwrs cywir i chi. 
  • Os nad oes gennych y graddau yr oeddech yn eu disgwyl, bydd ein hathrawon a'n cynghorwyr yno i'ch helpu i edrych ar yr opsiwn gorau i chi. 
  • Mae myfyrwyr cymwys yn cael eu cofrestru ar sail y cyntaf i'r felin. 
  • Mae gan y Coleg ddyletswydd statudol i flaenoriaethu addysg amser llawn i bobl 16-18 oed. Mae dysgu amser llawn ar gael i'r rhai 19+ oed, fodd bynnag, lle mae cwrs wedi'i strwythuro ar gyfer pobl 16-18 oed, bydd lleoedd yn cael eu blaenoriaethu i ddysgwyr cymwys o fewn y grŵp oedran hwn, yn unol â pholisi cenedlaethol. 
  • Ar ôl cael lle, byddwch yn mynd i'n canolfan gofrestru i gofrestru ac yna cael eich bathodyn adnabod coleg. Bydd hyn yn gofyn i chi gael tynnu eich llun. 
  • Mae'n ddiwrnod prysur yn y coleg a gall y broses gyfan gymryd tua 2 awr fel arfer. 

Cofrestru ar Gwrs Rhan-amser


Os ydych wedi gwneud cais am gwrs rhan-amser yn CCAF, neu os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs o’r fath, byddwn wedi anfon e-bost atoch ynglŷn â’r camau nesaf. Gwiriwch eich e-bost. Methu dod o hyd i’r e-bost? Edrychwch yn eich ffolder sothach neu cysylltwch â ni.

Bydd yr e-bost yn dweud pa gam rydych wedi’i gyrraedd yn y broses, gan nodi’r camau nesaf – sef un o’r camau isod. Bydd yr e-bost yn nodi’r cam rydych wedi’i gyrraedd a pha gam y dylech ei gymryd nesaf.

Os ydych wedi cael Cynnig Diamod (heb orfod disgwyl am ganlyniadau arholiadau)

Rydym wedi anfon e-bost cofrestru atoch.


Nawr, gallwch gofrestru ar-lein (drwy ddefnyddio’r ddolen yn yr e-bost) neu drwy fynd i Gampws Canol y Ddinas neu Gampws y Barri ddydd Llun i ddydd Iau, 10.00am – 4.00pm.


Rhaid ichi wneud hyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich lle yn y coleg, ac erbyn 12 hanner dydd, ddydd Mawrth 25ain Awst, pan fydd eich cynnig yn dod i ben ac y gellir cynnig y lle  i rywun arall. Wrth ymrestru, neilltuir y lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin.

Methu dod o hyd i’r e-bost? Gwiriwch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi inni wrth ymgeisio. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Ydych chi’n dal i fethu dod o hyd iddo? Cysylltwch â ni ar studentservices@cavc.ac.uk i roi gwybod.

Os ydych wedi cael Cynnig Amodol (aros am ganlyniadau arholiadau / pasio cwrs blaenorol)

Byddwn yn anfon e-bost atoch gydag apwyntiad i ddod i’r coleg i ymrestru erbyn canol mis Awst. Bydd eich apwyntiad brynhawn Mawrth  25ain Awst, naill ai yng Nghampws y Barri neu yng Nghampws Canol y Ddinas, gyda’ch cynnig yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.


Methu dod o hyd i’r e-bost? Gwiriwch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi inni wrth ymgeisio. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Ydych chi’n dal i fethu dod o hyd iddo? Cysylltwch â ni ar 

studentservices@cavc.ac.uki roi gwybod.


Methu dod i’ch apwyntiad? Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, bydd eich cynnig yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod hwnnw. Yna, bydd angen i chi ddod i’r sesiwn ymrestru agored gynharaf bosib i weld a oes lle ar ôl y gallwch ei gymryd.

Cynhelir sesiynau ymrestru agored fel a ganlyn:
Dydd Mercher 26ain Awst – 9am – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 27ain Awst – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas
Dydd Mawrth 1af Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas
Dydd Mercher 2il Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 3ydd Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri a Champws Canol y Ddinas

Dydd Mercher 9fed Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 10fed Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri
Dydd Mercher 23ain Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws Canol y Ddinas
Dydd Iau 24ain Medi – 3pm – 6pm yng Nghampws y Barri

Cais hwyr – rydych wedi ymgeisio ar ôl 1 Awst ac rydych wedi cael gwahoddiad i gofrestru’n hwyr

Byddwch yn cael gwahoddiad i’r sesiwn ‘cofrestru hwyr’ nesaf a fydd ar gael.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn cyfarfod â’n hathrawon. Bydd modd i ymgeiswyr cymwys gofrestru ar y lleoedd sydd ar ôl ar sail ‘y cyntaf i’r felin’.

Cofiwch ddod â’r canlynol gyda chi:

  • tystiolaeth o unrhyw gymwysterau y gallai fod angen i chi ei dangos (dim ond os bydd gan y cwrs ofynion mynediad penodol)
  • dull adnabod os nad ydych wedi astudio gyda CCAF o’r blaen (er enghraifft Cerdyn Yswiriant Gwladol / Pasbort / dogfen adnabod o fath arall sy’n cynnwys eich llun).

Cofrestru ar Gwrs Addysg Uwch

Os ydych wedi gwneud cais am gwrs Addysg Uwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, neu os ydych wedi cael cynnig lle ar gwrs o’r fath, byddwn yn anfon e-bost atoch ynglŷn â’r camau nesaf. Gwiriwch eich e-bost. Methu dod o hyn i’r e-bost? Edrychwch yn eich ffolder sothach neu cysylltwch â ni.

Bydd yr e-bost yn dweud pa gam rydych wedi’i gyrraedd yn y broses, gan nodi’r camau nesaf. 

Pob ymgeisydd

Byddwn yn afon e-bost atoch gydag amser apwyntiad i ddod i’r coleg i ymrestru. Efallai hefyd y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ar y rhif a roesoch i ni.

Methu dod o hyd i’r e-bost? Gwiriwch y cyfeiriad e-bost y gwnaethoch ei roi inni wrth ymgeisio. A chofiwch edrych yn eich ffolder sothach. Dal heb ddod o hyd iddo? Cysylltwch â ni ar studentservices@cavc.ac.uk i roi gwybod i ni.

Angen help i gofrestru? A oes gennych gwestiwn? Cysylltwch â ni


Mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yma i’ch helpu.


Sgwrs Fyw ar ein gwefan: Cliciwch ar yr eicon sgwrs fyw ar eich sgrin

Ffôn:02920 250 250

E-bost:studentservices@cavc.ac.uk

Ymweld â ni: Llun – Iau 10.00am – 3.00pm yng


Nghampws Canol y Ddinas CCAF

Mae ein llinellau ffôn yn brysur iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, felly efallai y bydd y gwasanaeth hwn yn cymryd mwy o amser.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan CAVC...

Safleoedd & Chyfleusterau

Mae’r Coleg wedi buddsoddi mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf i’n dysgwyr, cyflogwyr a’r gymuned.