Cais am gyllid ar gyfer gofal plant 2024-2025 – gwybodaeth i fyfyrwyr

Os dymunwch wneud cais am gyllid gan y coleg ar gyfer gofal plant, mae’n bwysig ichi ddarllen y nodiadau hyn yn ofalus. Os na fyddwch yn deall unrhyw ran o’r wybodaeth, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad fcfqueries@cavc.ac.uk cyn bwrw ymlaen.

  • Swm cyfyngedig o arian sydd ar gael. Cynghorir pob myfyriwr i gyflwyno cais yn gynnar. Ni ellir gwarantu unrhyw arian a chaiff yr arian ei gyfyngu i £42 y diwrnod am hyd at 3 diwrnod yr wythnos. Bydd yn rhaid i’r dysgwr dalu unrhyw gostau ychwanegol yn uniongyrchol i’r darparwr gofal plant.
  • Bydd yr holl geisiadau’n cael eu prosesu yn y drefn y cânt eu derbyn. Os na fydd y cais yn gyflawn, ni fydd yn cael ei ystyried.
  • Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr a gafodd gyllid gofal plant yn ystod blwyddyn academaidd 2023-2024 ac sy’n symud yn eu blaen i 2024-2025.
  • Mae’r holl ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau amser llawn yn gymwys i wneud cais am gyllid, ond efallai y rhoddir blaenoriaeth i rai cyrsiau. Mae hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau cyllido Llywodraeth Cymru.
  • Rhaid ichi astudio un cwrs Addysg Bellach (nid Addysg Uwch) am 12 awr yr wythnos fan leiaf.
  • Ni ddylech fod ag unrhyw gyfyngiad ar eich arhosiad yn y DU a rhaid ichi fod wedi bod yn y wlad am dair blynedd cyn dyddiad cychwyn eich cwrs.
  • Dim ond un plentyn fesul myfyriwr, fesul aelwyd y gall y coleg ei gynorthwyo (cysylltwch â ni cyn gwneud cais os ydych angen cyllid ar gyfer gefeilliaid neu ragor o blant).
  • Dim ond i’r myfyrwyr hynny sydd wedi cael cynnig amodol neu gynnig diamod y bydd y cyllid ar gael. Ni fydd y cyllid ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cael cynnig wrth gefn.
  • Mae’r ceisiadau’n gyfrinachol. Gofynnir ichi beidio â thrafod eich cais na’i ganlyniadau gyda myfyrwyr eraill. Ni fydd y Coleg yn ailystyried ei benderfyniadau ar sail unrhyw gymhariaeth lafar rhwng myfyrwyr.
  • Os cewch gymorth ar gyfer gofal plant, bydd modd ichi ddewis pa ddarparwr gofal plant a ddefnyddiwch cyn belled â bod y darparwr hwnnw wedi cofrestru gyda’r Awdurdod Lleol. Os ydych wedi eich lleoli ar Gampws Heol Colcot, cewch eich annog i ddefnyddio’r creche a ddarperir ar y safle.
  • Telir yr holl ddarparwyr gofal plant trwy BACS, fis ar ei hôl hi.
  • Bydd taliad ar gyfer gofal plant yn amodol ar gyfradd bresenoldeb o 90% fan leiaf gan y myfyriwr. Bydd hyn yn cael ei fonitro’n rheolaidd. Os na fydd y myfyriwr yn cyrraedd y gyfradd bresenoldeb hon, mae’n bosibl y bydd ei gyllid gofal plant yn cael ei dynnu’n ôl.
  • Bydd yn ofynnol i’r holl fyfyrwyr, yn cynnwys y rhai sy’n defnyddio Meithrinfa’r Coleg yn y Barri, dalu cyfraniad at gost eu gofal plant bob wythnos. Os na fydd y myfyrwyr yn gallu cadw at y taliadau hyn, mae’n bosibl y bydd eu cyllid gofal plant yn cael ei dynnu’n ôl.
  • Y coleg a fydd yn penderfynu faint o arian a roddir i bob myfyriwr, ar sail ei ddisgresiwn. Bydd y myfyrwyr yn cael un asesiad yn unig yn ystod pob blwyddyn academaidd.

Os cewch gymorth gyda gofal plant ac os na fyddwch yn cadw at yr amodau a nodir yn y contract, efallai y gofynnir ichi ad-dalu’r holl arian neu rywfaint o’r arian.