Cyn ddysgwr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Ruby, i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Lyon 2024

7 Mai 2024

Mae cyn ddysgwr HND Rheolaeth Lletygarwch yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, Ruby Pile, wedi cael ei dewis i gynrychioli’r DU yn WorldSkills Lyon 2024.

Bydd Ruby, sy’n gweithio ym mwyty seren Michelin nodedig Hywel Jones yng Ngwesty a Sba Lucknam Park, yn cystadlu fel rhan o Dîm y DU yn WorldSkills – sy’n cael ei adnabod yn gyffredin fel y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – yn Ffrainc ym mis Medi. Bydd hi'n cystadlu yn y categori Gwasanaeth Bwyty.

Mae Tîm y DU yn cael ei ddewis, ei fentora a’i hyfforddi gan WorldSkills UK mewn partneriaeth â’r cwmni dysgu blaenllaw Pearson.

Mae'r DU wedi bod yn cymryd rhan yng Nghystadleuaeth WorldSkills ers 1953. Defnyddir y digwyddiad gan lywodraethau ledled y byd fel prawf litmws i fesur parodrwydd i sicrhau’r twf economaidd gorau yn y dyfodol. Yn WorldSkills Lyon 2024, bydd 1,500 o gystadleuwyr o fwy na 65 o wledydd a rhanbarthau yn cystadlu mewn 62 o broffesiynau gyda’r nod o gael eu henwi ymhlith goreuon y byd yn y sgil o’u dewis.

"Rydw i mor falch ohona i fy hun am gael fy newis i gynrychioli’r DU yn fy sgil,” dywedodd Ruby. “Mae gwaith caled ac ymroddiad wir yn talu ar ei ganfed."

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Llongyfarchiadau a da iawn i Ruby am gyrraedd Tîm y DU yn Rowndiau Terfynol WorldSkills sy’n cael eu cynnal yn Ffrainc yn nes ymlaen eleni – bydd yn gyfle gwych na fydd llawer o bobl ifanc yn cael ei brofi.

“Mae’n gyflawniad mor nodedig. Mae Ruby wedi disgleirio ar bob lefel yng nghystadlaethau WorldSkills a Chystadleuaeth Sgiliau Cymru, a’i gwobr hi yw cynrychioli’r DU yn y rowndiau terfynol rhyngwladol. Yn olaf, fe hoffwn i ddweud diolch enfawr wrth holl staff y Coleg sydd wedi cefnogi Ruby i gyrraedd y lefel eithriadol yma.”

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “WorldSkills Lyon 2024 – meddyliwch am y Gemau Olympaidd ond y wobr yw’r sgiliau o safon fyd-eang y mae cyflogwyr y DU yn crefu amdanyn nhw.

“Bydd cyfranogiad y DU yn y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ yn darparu gwybodaeth hanfodol i sicrhau y gallwn ni ddatblygu ein rhaglenni prentisiaeth a’n hyfforddiant, i’w gwneud nhw i fod wir o safon fyd-eang.”

Dywedodd Freya Thomas Monk, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymwysterau a Hyfforddiant Galwedigaethol yn Pearson: “Mae Pearson yn rhannu llawer o nodau gyda WorldSkills UK – dathlu’r gorau o addysg alwedigaethol a thechnegol, codi ymwybyddiaeth o’r sector a’i fri a chefnogi pobl ifanc i bennu meincnodau o ragoriaeth yn y meysydd o’u dewis.

“Rydw i’n gobeithio bod aelodau Tîm y DU yn ymfalchïo yn y ffaith bod eu hymroddiad a’u talent wedi ennill lle iddyn nhw yn y gystadleuaeth fawreddog yma. Mae’r sgiliau maen nhw wedi’u hogi, a’r safonau maen nhw wedi gweithio mor galed i’w cyrraedd, yn cynrychioli’r gorau sydd gan ein gwlad ni i’w gynnig.

“Yma yn Pearson rydyn ni tu ôl i chi bob cam o'r ffordd.”

Cynhelir WorldSkills Lyon 2024, y 47ain Cystadleuaeth WorldSkills, rhwng 10 a 15 Medi.