Career Ready

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn falch iawn o fod yn rhan o Career Ready. Mae'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr ennill profiad i gynyddu eu cyfleoedd i lwyddo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae Career Ready yn trawsnewid cyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Drwy gysylltu myfyrwyr gyda gwirfoddolwyr o fyd busnes, maent yn datblygu'r sgiliau, hyder ac ymddygiad i gystadlu pan fyddant yn gadael y coleg. Mae Career Ready yn rhaglen y mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cynnig i fyfyrwyr 16-19 oed sy'n cofrestru ar gwrs. Mae gan y rhaglen Career Ready amcanion syml:

  • Cynyddu'r cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc yn y DU
  • Mwy o bobl ifanc yn y DU sy'n barod ar gyfer byd gwaith "

Pam y dylech ymuno â Career Ready?

Trwy gymryd rhan yn ein rhaglen mae gan fyfyrwyr fynediad i dosbarthiadau meistr yn CAVC ac ar safleoedd allanol. Bob blwyddyn, mae Career Ready yn cynnal trip Profiad Llundain, lle caiff dysgwyr gyfle i deithio i Lundain am ddiwrnod o rwydweithio a llawer mwy. Drwy ein dosbarthiadau meistr byddwch chi'n dysgu am:

  • Gwella eich CV
  • Adeiladu eich brand eich hun
  • Sgiliau cyfweld
  • Adeiladu hyder
  • Cadw cymhelliant a llawer, llawer mwy
  • Mae'r rhaglen Career Ready hefyd yn cynnig cynllun mentora. Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gael ei baru â gweithiwr proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd busnes. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddysgu gan bobl sy'n gweithio'n uniongyrchol mewn gwaith sydd o ddiddordeb iddynt.

Y cyswllt uniongyrchol hwn gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yw'r cam cyntaf y mae myfyrwyr yn ei gymryd i gymryd cyfrifoldeb a rhoi hwb i'w dyfodol.

Mae'r rhaglen Career Ready ar gyfer myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo, sydd angen arweiniad a chyfleoedd i gystadlu ar gyfer y gyrfaoedd gorau yn y wlad.

Rhagor o Wybodaeth

Ar adeg pan fo pobl ifanc yn cael trafferth sicrhau cyflogaeth ac mae gwybodaeth dda am y gweithle yn bwysicach nag erioed, mae'r digwyddiadau a gynhelir gennym yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn gyfle gwych i fyfyrwyr ymarfer rhwydweithio a darganfod mwy am y math o sgiliau mae'r prif gyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Ydych chi eisiau:

  • Datgloi eich potensial a chynyddu dyheadau?
  • Datblygu sgiliau cyflogaeth a phrofiadau?
  • Cael budd o fentor a swydd?
  • Cael cyfleoedd cyffrous a all newid eich bywyd a phrofiadau bywyd go iawn?

Ymunwch â ni yn Career Ready i roi cychwyn ar eich gyrfa.

Cymerwch Ran

Rydym bob amser yn chwilio am fwy o fusnesau ac unigolion i gynnig eu cefnogaeth i Career Ready drwy:

  • Ddod yn fentor - un ai wyneb yn wyneb neu e-fentora
  • Ymuno â'n Bwrdd Cynghori Lleol
  • Cyflwyno dosbarth meistri i fyfyrwyr ar bynciau penodol, er enghraifft "Ysgrifennu eich CV" neu " Rhwydweithio Effeithiol"
  • Cynnig gwaith am bedwar i chwe wythnos dros yr haf

Cysylltwch gyda ni

Emily Morgan, Cydlynydd Career Ready - EMorgan1@cavc.ac.uk
 

Pwyntiau Pwysig

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi bod mewn cyswllt gyda Career Ready UK ers 2009.
  • Mae Career Ready UK yn elusen genedlaethol sy'n cysylltu busnes ac addysg.
  • Trwy ein partneriaeth gyda Career Ready UK, rydym yn darparu rhaglen strwythurol o swyddi, mentora gan wirfoddolwyr, dosbarthiadau meistri ac ymweliadau i lefydd gwaith.
  • Amcan y rhaglen yw rhoi pobl 16 - 18 y profiad gwaith a sgiliau angenrheidiol i berfformio yn fwy effeithiol yn y byd mawr.
  • Mae Career Ready yn rhan o rwydwaith genedlaethol o fwy na 150 ysgolion a cholegau ar draws y DU.
  • Mae dros 85% o raddedigion Career Ready yn un ai mynd ymlaen i brifysgol - yn aml y cyntaf o'u teulu i wneud hynny - neu yn syth i gyflogaeth neu ddysgu trwy waith fel prentisiaeth neu raglenni rhai sy'n gadael yr ysgol.
  • Mae'r rhaglen Career Ready yn ein helpu i gwrdd â safonau diweddaraf y Llywodraeth ac Ofsted ar gyfer canllaw gyrfaoedd - "Dylai ysgolion gynnig cyswllt parhaus gyda chyflogwyr, mentoriaid a hyfforddwyr sy'n gallu dylanwadu ar fyfyrwyr gyda theimlad o beth gallant ei gyflawni a'u helpu i ddeall sut i weithredu i wneud iddo ddigwydd”.

Llais y dysgwr

Cynrychioli myfyrwyr a bod yn llais i'ch corff o fyfyrwyr

Chwaraeon CAVC – Academïau a Chwaraeon Elît

Cydbwyso eich chwaraeon dewisol wrth ddysgu.