Mae ein diploma 540 BTEC a diploma estynedig mewn Dylunio Graffeg yn gwrs gwych ar gyfer unigolion sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Wedi'i lleoli ar ein campws Canol y Ddinas yng Nghaerdydd, mae'r rhaglen hon yn cynnig ystod eang o ddulliau i ddylunio rhyngweithiol digidol, wrth ddefnyddio'r feddalwedd Adobe ddiweddaraf i gynhyrchu canlyniadau ysgogol. Mae hwn yn gwrs dwy flynedd o hyd a byddwch yn cyflawni dau gymhwyster yn ystod y cyfnod hwn. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, byddwch yn derbyn Diploma 540, ac ar ddiwedd yr ail flwyddyn byddwch yn cyflawni diploma estynedig llawn.
Gall dysgwyr ddisgwyl datblygu ystod o sgiliau yn ymwneud â’r maes pwnc sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw a’u gallu creadigol. Mae Dylunio Graffeg yn un o'r meysydd sy’n datblygu fwyaf. Mae'n cynnwys pynciau megis darlunio, brandio, pecynnu, trin delweddau, dylunio a chynllun, dylunio ffurfdeip, yn ogystal â disgyblaethau eraill sy'n ymwneud â dylunio.
Mae'r prosiectau a ddewisir yn ofalus yn eich galluogi chi i ymateb yn greadigol i friffiau dylunio, a chael blas ar feysydd arbenigol, megis:
Bydd myfyrwyr yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, gan roi cyfle iddynt ddatblygu llu o sgiliau sylfaenol o ran defnyddio meddalwedd, megis Photoshop, Illustrator, InDesign, portffolio Behance, ac ati. Yn ystod y ddwy flynedd, byddwch yn cwblhau pedair uned. Gellir llunio'r unedau hyn o brosiectau cryno, llai. Mae gan yr adran amrywiaeth eang o gyfleusterau ac offer cyfrifiadurol. Ni does angen gwybodaeth flaenorol arnoch am unrhyw feddalwedd, er y byddai hynny'n fanteisiol.
Ffioedd Stiwdio: £65.00
5 TGAU A* - C gan gynnwys Saesneg Iaith neu Fathemateg neu wedi cwblhau Diploma Atodol BTEC mewn Dylunio Graffeg. Rhaid ichi gyflwyno portffolio o waith yn ystod eich cyfweliad.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Roedd y dysgu’n wych ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n dda iawn. Roedd yna diwtora un i un ar gael bob amser ac roeddwn wir angen hynny pan oeddwn yn teimlo’n ddihyder. Roedd cyfleusterau’r coleg yn rhagorol, bob blwyddyn roedd gennym dechnoleg ac offer newydd y gallem eu harchwilio, ac roeddwn i’n teimlo bod fy sgiliau wir yn datblygu trwy hynny.
Wedi gorffen y cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen at Addysg Uwch, ac yn CAVC rydym yn cynnig Gradd Sylfaen mewn Dylunio Graffeg. Gallwch fynd ymlaen i gwblhau lleoliadau gwaith ym maes Dylunio Graffeg, Animeiddio, darlunio, Dylunio Ffurfdeip, Pecynnu, gosod/ Argraffu Cylchgrawn.