Mae ein cwrs Rheolwr MOT yn gyfle gwych i’r unigolion hynny sy’n dymuno rhedeg Gorsaf Profi Cerbydau MOT (VTS), neu a fydd yn uniongyrchol gyfrifol am weithrediadau MOT yn y VTS yn y dyfodol. Gan astudio ar ein campws Canol Dinas yng Nghaerdydd, bydd y cwrs deuddydd hwn yn edrych ar sut i gadw offer yr orsaf MOT wedi’i raddnodi, yn ogystal â sut i gynnal gorsaf MOT yn gywir. Cynlluniwyd cynnwys y cymhwyster hwn yn benodol i adlewyrchu cynnwys y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheolwyr MOT.
Cysylltwch â thiwtor y cwrs, os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach - 02920 406505.
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â'r pynciau canlynol:
Enillir y cymhwyster hwn drwy gwblhau arholiad ar-lein yn llwyddiannus.
I wneud cais, ffoniwch 02920 406 505.
Ffi Cwrs: £495.00
Ni cheir unrhyw ragofynion ar gyfer y cwrs hwn
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.