Gradd sylfaen mewn Arbenigedd Chwarae Gofal Iechyd

L5 Lefel 5
Llawn Amser
10 Medi 2024 — 11 Gorffennaf 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Wedi’i datblygu ar y cyd â’r Hospital Play Staff Education Trust (HPSET), mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i’ch galluogi chi, fel ymarferydd Lefel 3, i ymgymryd â’r sgiliau astudio ac ymarfer academaidd ychwanegol sydd eu hangen i weithio tuag at ennill statws graddedig fel Arbenigwr Chwarae Gofal Iechyd (HPS). O’r dechrau byddwch yn datblygu sgiliau astudio ac yn ehangu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth academaidd ac ymarferol sydd eu hangen i ddatblygu eich sgiliau wrth weithio gyda phlant sâl, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’r cwrs dwys hwn yn gofyn am gryn dipyn o waith annibynnol i wella’r wybodaeth a’r sgiliau a ddatblygir yn ystod darlithoedd, i ffwrdd o’r coleg.

Y ogystal â mynychu'r coleg am un diwrnod yr wythnos, mae gofyn i ymgeiswyr sicrhau darparu tystiolaeth o gyfnod mewn lleoliad o dan arweiniad Healthcare Play Specialist Education Trust cofrestredig, ac Arbenigwr Chwarae Gofal Iechyd yn ystod y rhaglen. Mae angen cwblhau 200 awr o ymarfer yn y lleoliad bob blwyddyn fydd yn cael eu hasesu ar ôl cwblhau portffolio o dystiolaeth yn arddangos cyflawni llwyddiant nifer o alluoedd.

Sut i wneud cais:

Gallwch wneud cais ar gyfer y cwrs hwn drwy UCAS.

Bydd y botwm cymorth ‘Gwneud Cais Nawr' yn mynd â chi i’r dudalen cwrs UCAS.

Bydd angen y manylion canlynol arnoch: Cod Cwrs – HC05, Cod Sefydliad – C16, Cod Campws - A, Enw Campws – Campws Canol y Ddinas

Am ragor o wybodaeth, ewch i UCAS.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

Modiwlau Blwyddyn 1 – Level 4

Myfyrio ar Ymarfer (20 credyd)
Datblygiad Plant a Phobl Ifanc (30 credyd)
Chwarae fel Adnodd mewn Ymyriadau Gofal Iechyd (30 credyd)
Effaith Polisi Ymarfer mewn Lleoliadau Gofal Iechyd (30 credyd)
Ymarfer Proffesiynol Blwyddyn 1: Portffolio Asesu Ymarfer (10 credyd)

Modiwlau Blwyddyn 2– Lefel 5

Proffesiynoldeb - Paratoi i Gofrestru (20 credyd)
Gwydnwch - Deall y Cysyniad ar gyfer y Plentyn a’r Ymarferwr (30 credyd)
Rheolaeth ac Arweinyddiaeth mewn Lleoliad Gofal Iechyd (30 credyd)
Ymchwiliad Ymarfer dan Arweiniad Myfyrwyr (30 credyd)
Ymarfer Proffesiynol Blwyddyn 2: Portffolio Asesu Ymarfer (10 credyd)

Amodau a Thelerau

Cliciwch yma am fwy

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffioedd Dysgu: £5,950.00

Gofynion mynediad

Cymhwyster lefel 3 llawn a pherthnasol yn y Blynyddoedd Cynnar, neu bwnc perthnasol, gyda 2 flynedd o brofiad gwaith yn y maes perthnasol. Yn ogystal, TGAU gradd C neu 4 ac uwch mewn Mathemateg a Saesneg. Byddai cymwysterau lefel 2 cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg yn cael eu hystyried. Mae’r cwrs ar agor i wirfoddolwyr a staff cyflogedig yn y sector. Bydd disgwyl i staff gwirfoddol fod wedi trefnu eu lleoliad gwaith o leiaf 200 awr eu hunain, cyn ymrestru ar gyfer y cwrs. Bydd angen i bob ymgeisydd ddarparu llythyr gan eu goruchwylydd yn cadarnhau y byddant yn cael cefnogaeth mentor â chofrestriad HPSET drwy gydol y rhaglen. Bydd angen i ymgeiswyr sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cyflawni contract Anrhydeddus, gan gynnwys yr holl ddogfennaeth ynghylch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae’n bosibl y cynhelir cyfweliad ag aelod o dîm y cwrs. 

Dulliau addysgu ac asesu

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu i gefnogi canlyniadau’r modiwl. Mae’r dulliau asesu a ddefnyddir yn cynnwys: traethodau a chyflwyniadau academaidd, adolygiadau llenyddiaeth, adroddiadau ysgrifenedig, ffeil o dystiolaeth ac asesiad o sgiliau ymarferol yn y gweithle.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

10 Medi 2024

Dyddiad gorffen

11 Gorffennaf 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Llawn Amser

8 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

TLCC5F02
L5

Cymhwyster

Foundation Degree in Healthcare Play Specialism

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, gall ymgeiswyr llwyddiannus 

 Fynd ar drywydd cyfleoedd cyflogaeth amrywiol o fewn y diwydiant. 
Cofrestrwch gyda HPSET fel Arbenigwr Chwarae Gofal Iechyd 
Symudwch ymlaen i’r cwrs atodol BA (Anrhydedd) Gweithio mewn Gwasanaethau Integredig i Blant a Phobl Ifanc. 
Yn ychwanegol, gallai statws graddedig ar ôl cwblhau Lefel 6 arwain at lawer o gyfleoedd ôl-raddedig.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE