Llwyddiant mawr myfyrwraig Gweinyddu yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro Krasimira ym myd busnes!

17 Meh 2020

Mae Krasimira Krasteva, myfyrwraig Gweinyddu Busnes Lefel 3 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, yn gwneud cynnydd o’i chwrs i brentisiaeth Gweinyddu Busnes yn Nhŷ’r Cwmnïau fis Medi.

Cyn dechrau yn ei rôl newydd, bydd Krasimira yn treulio’r haf yn gweithio fel intern cyflogedig gyda chwmni gwasanaethau adeiladu byd-eang ISG. Sefydlwyd yr interniaeth yn dilyn lleoliad gwaith a gwblhaodd wrth astudio yn CAVC – fe wnaeth gymaint o argraff ar ISG fel eu bod eisiau ei chadw yno.                 

“Yn gynharach eleni, roedd ISG yn chwilio am Gynorthwywyr Gweinyddol ar gyfer lleoliadau gwaith,” esboniodd Krasimira. “Fel arfer mae’r lleoliad gwaith yn para wythnos felly roeddwn i’n falch pan welais i eu bod nhw eisiau ymestyn fy lleoliad i ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach, fe gefais i gynnig interniaeth dros yr haf ganddyn nhw.”

Mae hi’n edrych ymlaen at yr interniaeth dros yr haf.

“Rydw i’n falch iawn o fod yn rhan o ISG Construction eto,” meddai Krasimira. “Mae’r tîm yno’n eithriadol gyfeillgar a phroffesiynol ac mor barod i helpu.

“Rydw i’n dysgu rhywbeth newydd yno drwy’r amser – mae pob diwrnod yn wahanol. Rydw i’n hapus o fod yn gweithio mewn amgylchedd sy’n fy herio i’n gyson.”

Mae Krasimira, sy’n 34 oed ac yn dod o’r Barri, wedi bod â diddordeb erioed mewn gweinyddu fel gyrfa ac felly penderfynodd wneud cais am gwrs yn CAVC.

“Fe gefais i fy nenu gan enw da Coleg Caerdydd a’r Fro yn academaidd a’r gwaith ymarferol sy’n rhan o’r cwrs,” meddai. “Roeddwn i’n gwybod bod y Coleg yn gweithio’n agos â’r cyflogwyr gorau ac felly y byddai cyfle i mi gymryd rhan mewn lleoliad gwaith a dod o hyd i gyflogaeth yn nes ymlaen.”

Cynorthwyodd y Coleg Krasimira gyda lleoliadau gwaith fel rhan o’i chwrs a’i helpu i sicrhau prentisiaeth Gweinyddu Busnes yn Nhŷ’r Cwmnïau.                   

“Rydw i’n teimlo’n grêt am y brentisiaeth,” meddai. “Mae fel bod yr holl waith caled a’r ymrwymiad yn cael ei wobrwyo dim ond drwy allu cysylltu fy enw â Thŷ’r Cwmnïau.

“Mae hwn yn gyfle gwych i mi gyfarfod pobl broffesiynol arbennig sy’n deg ac yn annog datblygiad proffesiynol eu tîm.”

Er nad yw llawer o bobl yn cysylltu cyrsiau busnes gyda dysgu seiliedig ar waith, mae Krasimira yn credu bod prentisiaethau’n opsiwn rhagorol yn lle prifysgol.                 

“Mae prentisiaethau’n ffordd grêt o’ch cael chi i swydd yn syth,” esboniodd. “Rydych chi’n llythrennol yn dysgu sut i wneud y gwaith wrth wneud y swydd.

“Mae’n gallu bod yn heriol, ond pwy sydd ddim yn hoffi her?”

Mae hi hefyd yn teimlo bod y gefnogaeth mae wedi’i chael yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro wedi bod yn allweddol yn ei datblygiad a’i chynnydd.

“Rydw i’n credu bod y gwaith academaidd ac ymarferol sy’n rhan o’r cwrs Gweinyddu Busnes a’r Ganolfan Gyrfaoedd a Syniadau yn rhoi llawer o leoliadau gwaith amrywiol i’r myfyrwyr gyda’r cyflogwyr gorau y gallwch chi eu dewis, a llawer o weithdai ar gyfer gwella eich sgiliau,” dywedodd Krasimira.

“Yn olaf, ond nid y lleiaf, roeddwn i wir yn gwerthfawrogi gwaith caled y bobl sy’n rhoi eu calon a’u henaid yn eu gwaith – fy nhiwtoriaid i Alison Freter a Kelly LaFlamme wnaeth fy helpu i gyda fy nhwf a fy natblygiad personol, a Nick Aiston a’i dîm yn y Ganolfan Gyrfaoedd a Syniadau am ddod o hyd i leoliadau gwaith oedd yn gweddu orau i mi a thynnu sylw at fy mhotensial fel ’mod i’n gallu cael lle ar y cynllun prentisiaeth yma.”