Ailachredu Coleg Caerdydd a’r Fro gyda statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth anrhydeddus

18 Mai 2023

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cael ei ailachredu ar gyfer statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth anrhydeddus, gan adlewyrchu’r gwaith sylweddol mae’n ei wneud i hyrwyddo Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynwysoldeb ac Ymgysylltu (FREDIE) o fewn y cymunedau mae’n eu gwasanaethu.

Nododd yr adroddiad ailachredu gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth bod gwaith y Coleg i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau da ymhlith yr holl nodweddion gwarchodedig yn rhagorol. Rhoddodd enghraifft o weithgareddau cysylltiedig â FREDIE ar draws y Coleg ar gyfer dysgwyr a staff, y tiwtorial a’r hyfforddiant, gan gynnwys CCAF yn cynnal ei Iftar Cymunedol cyntaf i nodi wythnos olaf Ramadan, presenoldeb staff a myfyrwyr yn PRIDE, a hyfforddiant profiad byw ar gyfer gwrth-hiliaeth a thrawsffobia.

Tynnodd sylw hefyd at sut mae CCAF yn parhau i fod yn esiampl o arfer da, gan gyflawni gwaith rhagorol a hefyd ymdrechu bob amser i wneud mwy.

Nododd aseswr ei fod yn "ysbrydoledig siarad â'r tîm yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae eu hymrwymiad a'u brwdfrydedd i sicrhau’r ddarpariaeth o’r safon uchaf i ddysgwyr ac amgylchedd gwaith cadarnhaol a chefnogol lle mae cydweithwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu a ffynnu yn parhau i fod heb bylu dim”.

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cynrychioli un o’r cymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol yng Nghymru. Dyma hefyd y darparwr mwyaf ar gyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru, gan ei roi mewn sefyllfa dda i estyn allan at gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y Brifddinas-Ranbarth a thu hwnt.

Prif Weithredwr Grŵp CCAF Mike James yw Cadeirydd Grŵp Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Colegau Cymru ac yn 2022 daeth y Coleg y coleg cyntaf yng Nghymru i ddod yn aelod o’r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon.

Hefyd, yn 2022, enillodd CCAF Wobr Beacon y DU gyfan Cymdeithas y Colegau (AoC) am ei waith arloesol i gofleidio cydraddoldeb a chynhwysiant, a Gwobr Llysgennad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant WorldSkills y DU.

Dywedodd Mike James: “Mae’n anrhydedd cael ein hailachredu ar gyfer statws Arweinwyr mewn Amrywiaeth.

“Fel y Coleg sy’n gwasanaethu un o’r cymunedau mwyaf amrywiol a bywiog yng Nghymru, rydyn ni’n hynod falch o’r canlyniad hwn. Mae’n golygu llawer i ni gan ein bod yn credu ein bod wrth galon y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu a bod yr holl fyfyrwyr a staff yn rhan o Deulu CCAF.

“Mae hyn yn dyst i’r bobl ar draws y Coleg sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod CCAF yn defnyddio dull hollgynhwysol o reoli cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud ac fe hoffwn i ddiolch iddyn nhw i gyd am hynny.”