Ar-lein ac Ar y Campws

Rydym yn gwerthfawrogi bod bywyd bob dydd yn cyflymu, felly dyna pam ein bod ni wedi chwilio am ffyrdd newydd o addysgu – ffyrdd sy’n gallu ei gwneud hi’n haws astudio ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith a bywyd.

Gwybodaeth am Cyrsiau ar-lein ac ar y Campws

Rydym yn gwerthfawrogi bod cyflymder bywyd bob dydd yn cyflymu, a dyna pam rydym wedi chwilio am ffyrdd newydd o addysgu - ffyrdd sy'n ei gwneud hi'n haws i astudio ochr yn ochr ag ymrwymiadau bywyd a gwaith.

Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Mindful Education  i greu casgliad o gyrsiau dysgu cyfunol sy'n darparu opsiynau astudio hyblyg, gan gyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth. 
Mae ein hamrediad o gyrsiau rhan amser proffesiynol yn cynnig y gorau o ddau fyd, gan ddisgwyl llai o amser yn y coleg na chyrsiau traddodiadol dosbarth yn unig, ac yn galluogi dysgwyr i ddysgu sut, pryd a lle maent eisiau astudio.

Ar-lein ac ar y campws - y gorau o'r ddau fyd

Mae darlithoedd fideo ar-lein ar gael ar gais, ac i'w gwylio o'ch ffôn, tabled neu gyfrifiadur. Mae gwersi'n para tua 45 munud ac yn dod ynghyd ag animeiddiadau â graffeg symudiad er mwyn dod â chysyniadau'n fyw. Ymarferion, astudiaethau achos rhyngweithiol ac offer creadigol er mwyn helpu ehangu'r profiad dysgu ymhellach.

Ar y campws, byddwch yn manteisio ar ddosbarthiadau coleg rheolaidd - ac ni fydd angen i chi ymrwymo i fynychu nosweithiau niferus bob wythnos. Bydd tiwtoriaid profiadol yn trafod ac yn atgyfnerthu'r hyn rydych wedi'i ddysgu'n ystod eich astudiaethau ar-lein a byddant ar gael i ddarparu arweiniad ynghylch datblygiad ac asesu. Bydd trafodaethau a dadlau gyda chyd-fyfyrwyr o gymorth i chi gymhwyso theorïau i sefyllfaoedd rydych yn eu hwynebu yn y gweithle.

Y Cyllid sydd ar Gael
Gallwn gynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid a benthyciadau i’ch helpu i dalu costau eich astudiaeth:

  • Lefel 2 – mae ein cyrsiau wedi'u hariannu'n rhannol, gan leihau'r gost yn sylweddol
  • Lefel 3 – mae cyrsiau cyfrifeg wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys (y rhai heb gymhwyster Lefel 3 llawn neu sy'n ennill llai na'r cyflog byw cenedlaethol)
  • Lefel 3 a Lefel 4 - Mae Benthyciadau i Ddysgwyr mewn Addysg Bellach ar gael ac ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth yn ôl nes eich bod yn ennill dros £26,575 y flwyddyn.
    Gofynnwch i aelod o staff y coleg am ragor o wybodaeth.

Dysgwch fwy...

Cyrsiau Pellter / Ar-lein ac Ar y Campws

Cyrsiau ar-lein ac ar y campws - AAT Cyfrifeg

Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Enw’r cwrs
Lefel
Lefel
Argaeledd
Dyddiadau dechrau ar gael
Mis
Blwyddyn
Lleoliadau ar gael
Tystysgrif AAT mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws) L2 Rhan Amser 5 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Diploma Uwch AAT mewn Cyfrifeg (Ar-lein ac Ar y Campws) L3 Rhan Amser 6 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Diploma Proffesiynol AAT mewn Cyfrifeg (Dysgu Cyfunol) L4 Rhan Amser 6 Medi 2024 Campws Canol y Ddinas, Caerdydd