Diploma VTCT mewn Adweitheg

L3 Lefel 3
Rhan Amser
3 Hydref 2024 — 12 Mehefin 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Diploma Lefel 3 VTCT mewn Adweitheg yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa fel adweithegydd.  Mae'r cymhwyster wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 16 oed neu hŷn a bydd yn eich cefnogi i ennill cyflogaeth fel rheolwr adweithegydd, gan fod yr uned sydd ynghlwm â'r cymhwyster hwn yn mynd i'r afael â'r holl sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon.

Mae hwn yn gymhwyster galwedigaethol sydd yn cynnwys yr elfennau hanfodol i weithio'n effeithiol fel adweithegydd megis, unedau gorfodol yn mynd i'r afael a'r canlynol; gwybodaeth a dealltwriaeth o'r egwyddorion, ymarfer ac ymarfer busnes, anatomi, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol. Byddwch hefyd yn datblygu eich dealltwriaeth a sgiliau ymarferol i gynnig triniaethau adweitheg safonol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Drwy gydol y cymhwyster yma byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth am anatomi a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, a gofal cleient. Byddwch hefyd yn datblygu amrywiaeth o sgiliau technegol gan eich galluogi i ddefnyddio technegau adweitheg ar gyfer ymlacio a hyrwyddo hunaniachaol i'ch cleientiaid. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol fydd yn eich helpu chi i gyfathrebu'n effeithiol gyda chleientiaid.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £150.00

Ffi Arholiad : £119.00

Gofynion mynediad

Gellir cael mynediad i’r cymhwyster hwn trwy fod wedi ennill cymhwyster Lefel 2 blaenorol  mewn Therapi Cyflenwol a/neu brawf sgiliau a chyfweliad llwyddiannus.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

3 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

12 Mehefin 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

3 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

HBCC3P20
L3

Cymhwyster

VTCT Diploma Lefel 3 mewn Adweitheg

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

£7.7billion

Mae’r diwydiant yn cynhyrchu bron i £7.7 biliwn i Economi’r DU. NHF (2018).

Cwrs llawn amser VTCT Lefel 3 Therapïau Cyflenwol, hunangyflogedig, salon, sba neu HND mewn therpïau clinigol os oes gan y dysgwr gymhwyster tylino hefyd.

Diploma VTCT mewn Adweitheg

Diploma VTCT mewn Adweitheg

Diploma VTCT mewn Adweitheg

Diploma VTCT mewn Adweitheg

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE